Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i gwch ym Mhenarth gael ei ddifrodi’n ddrwg gan dân.

Dechreuodd y tân tua 9.08pm neithiwr, a gollyngodd galwyni o danwydd i mewn i’r môr.

Roedd criwiau tân o Benarth, Canol Caerdydd, a Malpas wedi eu galw ar ôl i’r cwch 20 troedfedd ddechrau llosgi.

Y gred yw ei fod yn eiddo i gwmni Cardiff Sea Safaris, sy’n darparu teithiau ym Mae Caerdydd.