Davy Jones
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i brif leisydd y Monkees Davy Jones fu farw yn ei gartref yn Fflorida ddoe.
Roedd Davy Jones, gafodd ei eni ym Manceinion, yn 66 oed ac wedi cael trawiad ar y galon. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty ond bu farw’n fuan wedyn.
Dywedodd ei reolwr a’i frawd yng nghyfraith Joseph Pacheo ei fod yn ddyn “anhygoel”.
Daeth Davy Jones i amlygrwydd yn y 60au gyda’r grŵp The Monkees gyda chaneuon yn cynnwys I’m a Believer, Daydream Believer a Last Train to Clarksville.
Bu aelodau eraill o’r grŵp hefyd yn rhoi teyrnged i Davey Jones – dywedodd Peter Tork mewn datganiad ar Facebook ei fod wedi ei dristau o glywed am farwolaeth sydyn Davey Jones ac y bydd colled mawr ar ei ôl, a dywedodd Mike Nesmith fod ganddo atgofion melys am eu cyfnod yn y grŵp.
Mae’n gadael gwraig a phedair merch.