Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu – a fu’n wynebu trafferthion ariannol – yn chwilio am drefnydd newydd a fydd yn gallu denu enwau mawr y byd jazz yn ôl i Bowys.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys wedi cyhoeddi prosbectws ar gyfer swydd trefnydd newydd Gŵyl Jazz Aberhonddu, person a fydd “â’r sgiliau artistig a busnes a’r ddawn entrepreneuraidd i wireddu’r Ŵyl a chreu momentwm.”
Roedd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn arfer bod yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf yng Nghymru, ond dioddefodd broblemau ariannol ac, yn 2008, roedd Gŵyl y Gelli’r wedi cymryd cyfrifoldeb o drefnu’r ŵyl. Cyhoeddodd Gŵyl y Gelli y llynedd na fyddan nhw’n trefnu Jazz Aberhonddu yn 2012, a mae dau brif ariannwr cyhoeddus yr ŵyl nawr yn chwilio am rywun i’w rhedeg.
Bydd y trefnydd newydd yn cael ei benodi ar ddiwedd Ebrill, mewn pryd i drefnu’r ŵyl ym mis Awst eleni.
‘Dyfodol cyffrous’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu’n ŵyl bwysig ar lefel Gymreig a hefyd ar lefel ryngwladol. Ry’n ni wedi cael ymateb i’r prosbectws eisoes a ‘dyn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous i’r ŵyl.”
Derbyniodd Gŵyl Jazz Aberhonddu feirniadaeth yn y gorffennol am nad oedd yn gwneud llawer o ddefnydd o’r Gymraeg, ac mae’r prosbectws ar gyfer y swydd yn nodi fod angen i’r Gymraeg gael ei defnyddio: “Yng nghyd-destun dwyieithog cyfoes Cymru, dylai’r Ŵyl hybu, hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg.”