Bydd Geraint Lloyd yn cael ei symud i slot yr hwyr, a bydd slot yr ifanc yn cael ei dorri i deirawr dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw i newid amserlen Radio Cymru.
Dan y drefn newydd, sydd i fod i gael ei chyflwyno yn yr Hydref eleni, fe fydd y cyflwynydd prynhawn o Geredigion, Geraint Lloyd, yn symud o’i slot 2pm-5pm ac yn cymryd lle darllediadau C2 i’r ifanc rhwng 10pm-12am yn nosweithiol.
Bydd C2 yn dal i gael ei darlledu, ond rhwng 7pm-10pm yn unig.
Mwy o newyddion
Bydd yr orsaf hefyd yn rhoi mwy o amser i raglenni newyddion, gyda slot Taro’r Post yn ymestyn o 12.30pm i 2pm, a’r Post Prynhawn yn rhedeg o 5pm i 6.15pm. Bydd rhaglen y Post Cyntaf yn aros yr un hyd, rhwng 6.30am a 8.30am.
Bydd rhaglen Caryl a Daf hefyd yn cadw’i slot arferol yn yr hydref, ond bydd Nia Roberts yn cael ei symud i’r prynhawniau at Tudur Owen, gyda rhaglen newydd rhwng 2.30pm a 5pm.
Yn lle slot Nia Roberts, bydd rhaglen newydd yn cael ei darlledu o’r de orllewin, fydd yn cael ei darlledu i Gymru gyfan.
Dywedodd BBC Radio Cymru heddiw y byddai’r cynlluniau hyn i newid amserlen y rhaglenni yn cael eu trafod gyda’r undebau cyn eu derbyn yn derfynol. Mae disgwyl iddyn nhw gwrdd â’r unebau am y tro cyntaf fis nesa’.
‘Newid er mwyn arbed’
Daw’r cynigion i ail-strwythuro amserlen Radio Cymru yn sgil y newidiadau sylweddol sy’n rhaid eu gwneud i’r orsaf dros y 5 mlynedd nesaf, er mwyn arbed £11 miliwn ar draws BBC Cymru.
Wrth gyhoeddi’r cynigion ar gyfer yr amserlen newydd, dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, eu bod wedi gorfod gwneud cyfres o benderfyniadau anodd er mwyn ceisio cyrraedd y targed arbedion.
“Mae yna sgyrsiau a phenderfyniadau anodd wedi eu gwneud yn ystod y misoedd diwethaf ar draws BBC Cymru, a hoffwn ddiolch i chi am eich proffesiynoldeb a’ch ymroddiad parhaol yn ystod cyfnod ansicr iawn i rai,” meddai wrth y staff.
Ddoe, cafodd timau Radio Cymru a Radio Wales wybod am y cynigion sydd wedi eu gwneud er mwyn ail-strwythuro’r gwasanaeth – a chlywed bod 15 o swyddi yn mynd i gael eu torri ar draws y ddwy orsaf yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Ond dywedodd y byddai golygydd gwasanaeth Cymraeg y BBC, Sian Gwynedd, a golygydd Radio Wales, Steve Austins yn helpu’r staff sydd wedi eu heffeithio.
“Heb os, bydd y cyfnod nesa yn anodd i’r timau cynhyrchu sydd wedi eu heffeithio, ac rwy’n gwybod y bydd Sian a Steve yn gweithio’n agos gyda’r unigolion i geisio dod o hyd i gyfleoedd adleoli posib.
“Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn parhau i gynnal trafodaethau agored a defnyddiol gyda’r undebau ar y cyd,” meddai Rhodri Talfan Davies.
“Ydy, mae’r cynlluniau ry’n ni wedi eu cyhoeddi yn heriol, ond rwy’n credu eu bod nhw hefyd yn profi ein hymroddiad diwyro i ddarparu gwasanaethau o safon, dyfnder a phwrpas.”