Beti George
Mae’r ddarlledwraig  Beti George yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy o arian i fynd i’r afael ag effeithiau demensia.

Yn ôl yr ystadegau, mae bron deugain mil o bobl yng Nghymru â’r clefyd Alzheimer neu fath arall o ddemensia – ac mae’r ffigyrau’n awgrymu y bydd un o bob tri ohonom ni yn marw gyda’r afiechyd.

Mewn rhaglen ddogfen sy’n cael ei darlledu heno bydd Beti George yn teithio Cymru er mwyn dysgu mwy am gyflwr demensia.

Dywedodd Beti George: “Os nad oes na fuddsoddi nawr mewn ymchwil, fe fydd cost emosiynol ac ariannol y clefyd yma ymhen degawd arall yn waeth nag y gallwn amgyffred.

“Mae’r arian sy’n cael ei wario ar ymchwil demensia yn 12 gwaith yn is na’r arian a werir ar ymchwil cancr – £50 miliwn o’i gymharu â £590 miliwn.

“Sut yn y byd yr ydym ni’n disgwyl y byddwn yn ymdopi fel cymdeithas pan fydd un o bob tri ohonom yn byw gyda’r cyflwr? Rhaid inni fuddsoddi llawer mwy yn yr ymchwil meddygol i arafu ac atal y cyflwr ffisegol creulon hwn sy’n ymosod ar gelloedd yr ymennydd ac i wella’r gofal a ddarperir ar gyfer pobl â’r cyflwr.”


Beti George a'i phartner David Parry-Jones
Profiad personol

Mae gan y newyddiadurwraig brofiadol resymau personol dros deimlo’n angerddol am y cyflwr gan fod ei phartner, yr awdur a’r darlledwr 78 oed, David Parry-Jones yn byw gyda’r clefyd Alzheimer, y math mwyaf cyffredin o ddemensia.

“Mae gweld y cyflwr yn effeithio ar David, dyn a oedd yn ei elfen yn darllen ac ysgrifennu ac wedi ennill gwobr Brydeinig am un o’i lyfrau am hanes rygbi Cymru, wedi fy ngwneud i’n benderfynol i agor y drafodaeth am y clefyd Alzeheimer a demensia,” meddai Beti sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol o Geredigion.

Mae David Parry-Jones ar driniaeth cyffuriau sy’n arafu’r cyflwr ac mae’n dal yn gallu mwynhau bywyd cymharol gyflawn er gwaetha’r rhwystredigaeth ofnadwy o fod yn anghofus.

Mae Beti George yn rhannu ei phrofiadau ar daith bersonol ledled Cymru wrth iddi gwrdd â phobl ag Alzheimer’s.

Mae sefyllfa’r teuluoedd i gyd yn wahanol – ond yr hyn sy’n eu huno yw’r angen am well gofal a chefnogaeth gan y wladwriaeth a chymdeithas.

“Mae’n rhaid dweud ein bod ni ymhell ar ei hol hi o safbwynt gofal yma yng Nghymru, Mae yna eithriadau – fe wnes i ymweld â chartrefi Bryn Blodau, Llan Ffestiniog a Glyn Menai, Bangor sy’n enghreifftiau calonogol o ddefnyddio dulliau sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw i bobl sydd wedi’u cau yn aml yn eu bydoedd preifat. Mae’r gofal a roddir yn y cartrefi yma’n dangos y ffordd i Gymru gyfan.”

Bydd Beti George  heyfd yn cwrdd â nifer o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Yr Athro Julie Williams, arbenigwraig geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Athro Bob Woods, Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.

Bydd Uno Bob tri yn cael ei darlledu heno ar S4C am 8.25pm.

,