Katherine Jenkins
Mae Katherine Jenkins wedi cyhoeddi y bydd hi’n cymryd rhan yn y gyfres newydd o Dancing With The Stars ar deledu yn yr Unol Daleithiau.

Bydd y ganotores opera o Gymru, oedd wedi gwahanu oddi wrth y cyflwynydd Gethin Jones yn ddiweddar, yn cymryd rhan yn y gyfres sy’n ail-ddechrau fis nesa’.

Bydd hi’n ymuno â nifer o wynebau cyfarwydd i gynulleidfa’r UDA, gan gynnwys y gantores Gladys Knight, y canwr a’r cyfansoddwr Gavin DeGraw, a’r chwaraewraig tennis Martina Navratilova yn y gystadleuaeth ddawnsio i’r sêr.

Bydd y cystadleuwyr yn dawnsio gyda’u partneriaid proffesiynnol am y tro cyntaf mewn rhaglenni ar 19 Mawrth a 26 Mawrth, gyda’r cwpwl cyntaf yn cael eu hanfon o’r gystadleuaeth ar 27 Mawrth.

Daw’r cyhoeddiad ddeufis yn unig wedi i Katherine Jenkins, 31, a’r cyn-gyflwynydd Blue Peter ac Uned 5, Gethin Jones, 34, gyhoeddi eu bod yn gwahanu.

Dechreuodd y berthynas wedi i’r ddau gyfarfod ar Strictly Come Dancing – lle’r oedd Gethin Jones ei hun yn cystadlu mewn cystadluaeth ddawnsio gyda’r sêr, tra bod Katherine Jenkins yn canu ar y rhaglen.

Wrth gyhoeddi diwedd y berthynas ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd Katherine Jenkins fod y ddau “tu hwnt i dor-calon” yn sgil y penderfyniad.

Mae cyn-gystadleuwyr y gyfres boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys Rob Kardashian a Ricki Lake, ac ymhlith enillwyr y cyfresi diwethaf mae’r gantores o’r Pussycat Dolls, Nicole Scherzinger, a’r actores o Dirty Dancing, Jennifer Grey.