Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanllyfni nos Wener 24 Chwefror. Y beirniaid oedd Mr Huw Foulkes, Caerdydd (Cerdd) a Mrs Dorothy Jones, Llangwm (Llefaru a Llenyddiaeth). Cafwyd noson lwyddiannus iawn, a’r ddau feirniad yn canmol safon y cystadleuwyr yn y gwaith llwyfan a’r gwaith llenyddol. Y cyfeilydd oedd Mr H Alan Roberts, Porthmadog. Enillwyd y Gadair agored am gerdd ar y testun Dychwelyd gan Mr Richard Morris Jones, Caernarfon. Enillydd Cadair yr Ifanc oedd Llinos Heledd Roberts o Lanllyfni ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Perfformiwr mwyaf addawol yr Eisteddfod ym marn y ddau feirniad oedd Caryl Angharad, Carmel.
Dyma’r canlyniadau:
CANU
Unawd dan 10 oed
1af: Nanw Evans, Pontllyfni
2il: Hawys Evans, Pontllyfni
Unawd dan 12 oed
1af: Fflur Davies, Rhostryfan
2il: Luned Rhys, Llanarmon
Unawd Blwyddyn 7, 8 a 9
1af: Gwion Jones, Bethel
2il: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan
Unawd 15 – 21 oed
1af: Enlli Pugh, Botwnnog
2il: James Edwards, Llanfair PG a Caryl Angharad, Carmel
Prif Unawd
1af: Clarence Jones, Llangefni
2il: Caryl Angharad,Carmel
Deuawd dan 15 oed
1af: Mali Llyfni a Megan Crisp
Cân Werin dan 15 oed
1af: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan
2il: Gwion Jones, Bethel
Unawd Cerdd Dant dan 15 oed
1af: Alaw Williams, Pontllyfni
2il: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan
Cân Werin Agored
1af: Caryl Angharad, Carmel
2il: Enlli Pugh, Botwnnog
Unawd Cerdd Dant Agored
1af: Enlli Pugh, Botwnnog
2il: Caryl Angharad, Carmel
Cân allan o Sioe Gerdd
1af: Caryl Angharad, Carmel
2il: James Edwards, Llanfair PG
Canu Emyn dros 50
1af: Arthur Wyn Parry, Groeslon
2il: Brynmor Jones a Wyn
Unawd Piano (oed uwchradd)
1af: Gwion Jones Bethel
2il: Megan Crisp Nebo
Unawd Offerynnol (oed uwchradd)
1af: Megan Crisp, Nebo
2il: Lowri Mair Williams, Pontllyfni
LLEFARU
Dan 10 oed
1af: Jac Williams, Dinbych
2il: Ifan Rhys, Llanarmon
Dan 12 oed
1af: Llio Bryfdir, Bontnewydd
2il: Lleucu Williams, Nefyn
Blwyddyn 7, 8 a 9
Cydradd 1af: Mali Llyfni, Llanllyfni a Gwion Jones, Bethel
15 – 21 oed
1af: Caryl Angharad, Carmel
Y Brif Adroddiad
1af: Caryl Angharad, Carmel
Adroddiad Digri
1af: Lleucu Elenid Williams, Nefyn
Perfformiwr mwyaf addawol y Steddfod: Caryl Angharad, Carmel
DAWNSIO DISGO
1af: Parti Pontllyfni
LLENYDDIAETH
Rhyddiaith dan 15 oed
1af: Mali Llyfni Ysgol Dyffryn Nantllei
2il: Elin Llwyd Williams Ysgol Dyffyn Nantlle
Barddoniaeth dan 15 oed
1af: Megan Angharad Hunter Ysgol Dyffryn Nantlle
2il: Catrin Ann Thomas a Lowri Mair Williams Ysgol Dyffryn Nantlle
Rhyddiaith dan 19 oed
1af: Llinos Heledd Roberts, Ysgol Dyffryn Nantlle
2il: Mared Gruffydd, Rhoscefnhir, Ynys Mon
Barddoniaeth dan 19 oed
1af: Llinos Heledd Roberts, Ysgol Dyffryn Nantlle
2il: Elan Grug Muse Ysgol Dyffryn Nantlle
Llenyddiaeth dan 19 oed (dysgwyr)
1af: Nia Haf Jones, Rhuthun
Englyn
1af: John Ffrancon Griffith, Abergele
2il: Meirion Jones, Llanfair PG, Ynys Môn
Englyn crafog
1af: John Ffrancon Griffith, Abergele
2il: John Meurig Edwards, Aberhonddu
2il: R J H Griffiths, Bodffordd, Ynys Môn
Telyneg
1af: John Meurig Edwards Aberhonddu a Valmai Williams, Aberdesach
2il: R J H Griffiths, Bodffordd, Môn
Gorffen Limrig
1af: John Meurig Edwards, Aberhonddu
2il: Ffion Gwen Williams,
Llunio Brawddeg
1af: Eleri Evans, Nanmor
Cystadleuaeth y Dysgwyr
1af: Nia Haf Jones, Rhuthun
Stori Fer
1af: Rhian Tomos, Caernarfon
2il: Eirlys Wynn Tomos, Rhuthun
Cerdd gaeth neu rydd
1af: Richard Morris Jones, Caernarfon
2il: Elan Grug Muse, Carmel
EISTEDDFOD PLANT YSGOL LLANLLYFNI 2012
Cynhaliwyd Eisteddfod Plant Ysgol Llanllyfni ar Ddydd Gwyl Dewi. Unwaith eto cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn, gyda phlant yr ysgol yn perfformio ar eu gorau ac yn mwynhau bod ar y llwyfan. Roedd y neuadd dan ei sang a’r rhieni wrth eu bodd yn gweld y plant yn eu gwisgoedd Cymreig amrywiol. Y beirniad cerdd oedd Mrs Carys Vaughan Jones, Penygroes a’r beirniad llefaru oedd Mrs Eryl Thomas, Nantlle. Y cyfeilydd oedd Mrs Pat Jones Chwilog.
Hoffai’r pwyllgor ddiolch i fudiad y Round Table yng Nghaernarfon am eu rhodd tuag at gostau cynnal Eisteddfod y Plant.
Dyma’r canlyniadau:
Dosbarth Meithrin:
Canu: 1af Lana a Danielle 2il Enlli a Nia 3ydd Kian a Kacie.
Llefaru: 1af Lana 2il Danielle 3ydd Kian, Enlli, Nia a Kacie.
Dosbarth Derbyn:
Canu: 1af Josh, 2il Rosheen, 3ydd Dion ac Enfys
Llefaru: 1af Enfys a Josh, 2il Rosheen a Dion, 3ydd Tilly
Blwyddyn 1:
Canu: 1af Owain a Cai, 2il Beca, 3ydd Elliw Mai ac Elliw Wyn
Llefaru: 1af Cai, 2il Elliw Wyn, 3ydd Mabon ac Elliw Mai
Blwyddyn 2:
Canu: 1af Begw ac Anya, 2il Shayley ac Annabelle 3ydd Dyfan
Llefaru: 1af Begw 2il Dyfan ac Anya 3ydd Shayley ac Annabelle
Blwyddyn 3:
Canu: 1af Cadi Evans, 2il Cadi Davies a Cayo, 3ydd Iestyn
Llefaru: 1af Cadi Evans, 2il Cadi Davies a Iolo
Blwyddyn 4:
Canu: 1af Elen a Cian, 2il Anya a Joanna, 3ydd Llewelyn ac Elin
Llefaru: 1af Elen, 2il Llewelyn, 3ydd Cian a Joanna
Blwyddyn 5:
Canu: 1af Catrin a Ffion, 2il Dafydd
Llefaru: 1af Awel a Catrin 2il Dafydd, 3ydd Gareth a Tomos
Blwyddyn 6:
Canu: 1af Elliw, 2il Luke ac Ella, 3ydd Sion a Gruffydd
Llefaru: 1af Elen, 2il Elliw, 3ydd Ella
Unawd Offerynnol:
1af Elen, 2il Llewelyn, 3ydd Joanna a Ffion