Mattoids - (o'r chwith i'r dde) Rhys James, Hefin Thomas, Gareth Delve a Steve Owen
Mae’r grŵp roc o Sir Benfro, Mattoidz, wedi rhyddhau eu sengl newydd ddoe, a hynny dros dair blynedd ar ôl rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf.
Cafodd y sengl Ymerodraeth Newydd ei rhyddhau ar label My Imaginary Label ddoe ac mae’n cynnwys dau drac, sef ‘Ymerodraeth Newydd’ ac ‘El Presidente’.
Dyma’r cynnyrch cyntaf i’r grŵp poblogaidd, sydd â’u gwreiddiau yn ardal Crymych, ryddhau ers yr albwm Llygaid Cau a Dilyn Trefn a ddaeth i’r Golwg yn Hydref 2008.
Clawr y sengl newydd
Mae’r sengl newydd wedi’i recordio yn stiwdios Sonic One yn Llangennech, gyda’r cynhyrchydd cydnabyddedig Tim Hamill wrth y llyw.
Mwy i ddod
Dim ond dechrau adfywiad Mattoidz ydy’r sengl gyntaf yma’n ôl Hefin Thomas o’r grŵp.
“Ry’n ni nôl yn y stiwdio ym mis Mai” meddai wrth Golwg360 heddiw.
“Mi fydd sengl arall allan ym mis Mehefin, ac un eto yn yr hydref gobeithio.”
Mae’r grŵp hefyd yn ddiweddar wedi cyhoeddi cynlluniau i berfformio’n fyw eto.
Fe fyddan nhw’n un o’r hanner cant o grwpiau sy’n camu i’r llwyfan fel rhan o ŵyl ‘50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar 13-14 Gorffennaf eleni.
Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho o Itunes, Napster, Amazon, Spotify, Tunetribe a nifer o siopau ar-lein eraill.
Fideo un o ganeuon blaenorol Mattoidz, ‘Y Dyn Telesales’: