Bryn Terfel
Bydd y canwr opera rhyngwladol Bryn Terfel yn cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Bangor heddiw am ei gyfraniad helaeth i gerddoriaeth.

Bydd y Baritôn o Bantglas yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth – pluen arall yn het y canwr sydd eisoes wedi ennill gwobrau Grammy, Classical Brit a Gramophone yn ystod ei yrfa, yn ogystal â sefydlu gŵyl gerddorol y Faenol.

‘Anrhydedd enfawr’

Wrth dderbyn ei radd heddiw, dywedodd Bryn Terfel fod yr achlysur yn “anrhydedd enfawr” iddo.

“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa amrywiol yn y byd cerddorol ac mae cael anrhydedd yn brofiad gostyngedig iawn,” meddai.

“Wrth edrych ar anrhydeddon diweddaraf Prifysgol Bangor, mae’n fraint cael ymuno â rhestr o unigolion talentog sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’w meysydd penodol nhw. Dwi mewn cwmni da iawn.”

Graddau er Anrhydedd

Dyma’r eildro yn unig i’r Brifysgol wobrwyo Graddau er Anrhydedd.

Cafodd y rhai cyntaf eu cyflwyno i’r Archesgob Desmond Tutu, Syr David Attenborough, Rhodri Morgan a Syr John Meurig Thomas i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed, yn ôl yn 2009.

Ond yn ôl Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol Bangor, gallai neb fod yn fwy teilwng o dderbyn yr anrhydedd diweddaraf.

“Heb os, Bryn Terfel yw un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus Cymru a’r canwr opera gorau i’r wlad erioed ei gynhyrchu,” meddai.

“Mae’r Brifysgol yn falch iawn o allu gwobrwyo unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd cerddoriaeth – ac wrth wneud hynny yn rhoi Cymru a Gwynedd ar y map.”

Taith gerddorol

Mae gyrfa amrywiol Bryn Terfel wedi mynd ag ef i rai o lwyfannau opera gorau’r byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi serennu mewn cynyrchiadau fel Falstaff a Die Meistersinger von Nürnberg.

Ond llwyfan yr Urdd a’r Genedlaethol oedd dechrau’r daith gerddorol i’r bachgen o Bantglas, ger Caernarfon, a gychwynnodd ei yrfa yn cystadlu mewn eisteddfodau led-led Cymru, cyn symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerddoriaeth Guildhall yn Llundain.