Rupert Murdoch
Bydd cost tanysgrifio i’r Times a’r Sunday Times yn dwblu’r mis nesa’, cyhoeddodd News International heddiw.

Mae’r rheiny sydd yn tanysgrifio wedi clywed bod eu pecyn digidol yn mynd i gostio £4 yr wythnos o fis nesa’ ymlaen, yn hytrach na’r £2 yr wythnos presennol.

Ond os bydd pobol yn tanysgrifio erbyn 1 Mawrth fe fyddan nhw’n talu £2 yr wythnos nes 2013 am bob mynediad i’r Times.co.uk a’r SundayTimes.co.uk, yn ogystal ag archifau yn dyddio’n ôl i 1785.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd News International fod  gan y Times 119,255 o danysgrifwyr digidol, tra bod gan y Sunday Times 113,818 o dangysgrifwyr, ond maen nhw’n dweud fod eu darllenwyr sy’n talu am y dydd wedi croesi’r miliwn gyda’r Sunday Times.

Yn ôl News International, cafodd 59,882 o gopiau o’r Times eu lawrlwytho bob dydd ar gyfartaledd i’r iPad yn unig – mae hynny’n gynnydd o 35% mewn chwe mis. Cafodd y Sunday Times ar gyfer yr iPad ei lawrlwytho 63,959 yr wythnos ar gyfartaledd – cynnydd o 80% mewn chwe mis.

Ond mae hyn wedi cydfynd â chwymp yn nifer y fersiynau print sy’n cael eu gwerthu gyda’r Times i lawr 11.4% o’i gymharu â mis Ionawr y llynedd, tra bod gwerthiant fersiwn print y Sunday Times wedi gostwng 6.87% o’i gymharu â mis Ionawr y llynedd.

Daw’r cyhoeddiad heddiw wrth i un o bapurau newydd eraill News International, y Sun, gyhoeddi bod y Sun on Sunday, sydd i gael ei lansio ddydd Sul nesa’, yn mynd i gostio llai na hanner pris ei brif gystadleuydd – y Sunday Mirror.

Fe gyhoeddodd Rupert Murdoch heddiw y bydd y Sun yn costio 50c i brynwyr o ddydd Sul ymlaen, a bydd pris y Sun ar ddydd Sadwrn hefyd yn gostwng o 60c i 50c.