Arlywydd Afghanistan Hamid Karzai
Bu fawr o leiaf saith o bobl mewn protestiadau yn Afghanistan, yn dilyn y newyddion fod copïau o’r Koran wedi eu llosgi ar faes awyr lluoedd America.

Roedd o leiaf 2,000 o bobl wedi protestio tu allan i’r maes awyr yn Bagram ar ddechrau’r wythnos. Roedden nhw wedi eu cythruddo am fod copïau o’r Koran ac eitemau Islamaidd  wedi eu llosgi, yn dilyn adroddiadau gan weithwyr Afghan lleol.

Camgymeriad oedd llosgi’r eitemau, yn ôl y Cadfridog sy’n arwain lluoedd UDA a Nato yn Afghanistan.

Ac mae Arlywydd UDA Barack Obama hefyd wedi ymddiheuro am y digwyddiad mewn llythyr at Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai.

Dywedodd llefarydd Hamid Karzai bod  Obama wedi mynegi ei “ymddiheuriadau diffuant” yn dilyn y digwyddiad.

Heddlu’n saethu 3 protestiwr yn farw

Roedd heddlu Afghanistan wedi saethu a lladd tri o’r protestwyr wrth i’r anghydfod barhau ynglŷn â llosgi copïau o’r Koran ym maes awyr Bagram.

Dywedodd yr heddlu fod un person wedi ei saethu’n farw a phedwar wedi eu hanafu, gan gynnwys dau heddwas, yn nhalaith ogleddol Baghlan.

Cafodd dau brotestiwr arall eu lladd a chwech eu hanafu yn ystod protest arall yn nhalaith Uruzgan yn y de.

Fe fu gwrthdaro rhwng protestwyr yn y brifddinas a thaleithiau dwyreiniol hefyd, gan adael o leiaf 7 o bobl yn farw a dwsinau wedi’u hanafu.

Dywedodd yr Arlywydd Hamid Karzai ei fod e’n rhannu poen y bobl wrth glywed am y difrod i’r Koran, ond gofynnodd iddynt dawelu er mwyn i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dechrau’r protestio

Dechreuodd y protestio ddydd Mawrth, ar ôl i weithwyr lleol sylwi fod copïau o’r Koran ymysg eitemau oedd yn cael eu llosgi ym maes awyr Bagram.

Roedd y Cadfridog John Allen, arweinydd lluoedd UDA a NATO yn Afghanistan, wedi ymddiheuro yn syth wedi’r digwyddiad.

Serch hynny, roedd torf o ryw gant o brotestwyr wedi cynyddu i fod dros 2,000 wrth i’r protestio gynyddu ddydd Mawrth.

Mae rhai adroddiadau wedi honni fod y penderfyniad i losgi’r llyfrau wedi ei wneud am eu bod yn cynnwys negeseuon eithafol. Dywedodd y Ty Gwyn ei fod yn gamgymeriad fod y llyfrau wedi cael eu llosgi.