Alun Cairns
Bydd 200 o weithwyr yng nghanoflan y Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan yn colli eu swyddi heddiw, wrth i’r awyren olaf adael y ganolfan y prynhawn ’ma.

Bydd y ganolfan yn cau’n derfynol heddiw, ar ôl 75 mlynedd o waith ar y safle.

Mae’r safle wedi derbyn buddsoddiad gwerth £240 miliwn dros y 10 mlynedd ddiwethaf, rhwng Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac mae’r Aelod Seneddol lleol, Alun Cairns, wedi datgan ei siom ynglyn â’r penderfyniad i gau’r safle.

‘Llenwi’r bwlch’

Dywedodd Alun Cairns ei bod hi’n holl bwysig denu diwydiant i lenwi’r bwlch sydd wedi ei adael gan gau’r canolfan a bod angen darganfod ffyrdd o ddenu cwmniau newydd i wneud y defnydd gorau o’r sgiliau arbenigol sydd yn yr ardal.

“Rwy’n cadw mewn cysylltiad gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn am gynlluniau am awyrendy enfawr, ac yn hyderus am ganlyniad hynny,” medd Aelod Seneddol Bro Morgannwg heddiw.

Ond bydd cau’r safle yn golygu bod y gwaith o gynnal a chadw  awyrennau, sy’n dyddio nôl i 1938, ac yn cyflogi 3,500 o bobol yn ei oes aur, yn dod i ben y prynhawn yma.

Ergyd arall

Mae cau’r ganolfan yn ergyd arall i gymuned a oedd, flwyddyn a hanner yn ôl, yn dal yn gobeithio y gallai Academi Hyfforddi Filwrol gael ei hagor yn Sain Tathan. Byddai’r cynllun wedi arwain at 3,000 o swyddi newydd ym Mro Morgannwg.

Ond fis Hydref 2010, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan na fyddai’r ganolfan gwerth £14 biliwn yn mynd yn ei flaen wedi’r cwbwl.