Mae grŵp lobio wedi’i ffurfio gan rieni sy’n pryderu bod y Gymraeg yn cael ei gorfodi ar blant Cymru.
Mae maniffesto’r grŵp yn cael ei gyhoeddi ar wefan Gogwatch, a dywed y wefan bod tebygrwydd rhwng ymgyrch Parents for Choice i addysgu eu plant trwy’r Saesneg ac ymgyrch rhieni yn y 60au a’r 70au i addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywed y grŵp eu bod yn pryderu bod Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Cynulliad yn tanseilio addysg cyfrwng Saesneg wrth i ysgolion dwyieithog a Saesneg droi yn raddol yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan “yrru rhagor o blant i addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg… heb ymgynghori â’r rhieni.”
‘Ideoleg wledidyddol’
Dywed y grwp ymhellach: “Does bosib, mewn Cymru ddemocrataidd a chyfiawn, na ddylai hawl rhieni i addysgu eu plant yn eu dewis iaith gael blaenoriaeth dros ideoleg wleidyddol?”
Mewn ymateb i ymholiadau Golwg360 dywedodd Parents for Choice nad ydynt mewn sefyllfa i wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.