Charlotte Church
Mae’r gantores Charlotte Church wedi dod i gytundeb gyda chyhoeddwyr y News of the World ynglŷn â’i chais am iawndal yn dilyn achosion o hacio ffonau.

Fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb ddyddiau’n unig cyn i’r achos gael ei glywed yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Roedd disgwyl i Mr Ustus Vos ystyried honiadau bod 33 o erthyglau ym mhapur y News of the World, sydd bellach wedi dod i ben, wedi cael eu hysgrifennu o ganlyniad i glustfeinio ar negeseuon ffôn, a bod yr erthyglau wedi cael effaith negyddol ar fusnes y teulu a iechyd ei mam.

Ond fe glywodd y barnwr heddiw fod y ddwy ochr bellach wedi dod i gytundeb. Mae 50 o geisiadau yn erbyn News Group Newspapers  bellach wedi dod i gytundeb.

Credir bod NGN hefyd yn wynebu cais newydd gan Cherie Blair, gwraig y cyn Brif Weinidog yn dilyn honiadau bod newyddiadurwyr wedi clustfeinio ar ei negeseuon ffôn.