Mae cwmni tanwydd Centrica wedi cyhoeddi gostyngiad o 30% yn elw Nwy Prydain heddiw i £522 miliwn.

Mae’r cwmni, oedd wedi colli 97,000 o gwsmeriaid yn 2011, yn rhoi’r bai ar y tywydd mwyn yn y gwanwyn a’r hydref.

Daw’r gostyngiad er gwaetha’r ffaith bod biliau nwy y cwmni wedi codi 18% a biliau trydan 16% ym mis Awst. Ers hynny, mae’r cwmni wedi cyhoeddi gostyngiad o 5% ym mhrisiau trydan ym mis Ionawr.

Roedd Centrica wedi cyhoeddi cynnydd o 1% yn eu helw i £2.41 biliwn.

Dywedodd y prif weithredwr Sam Laidlaw ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd “i Centrica a’n cwsmeriaid”.