Y tri ymgeisydd
Fe fydd papurau pleidleisio yn cael eu hanfon i aelodau Plaid Cymru heddiw i ddewis arweinydd newydd i olynu Ieuan Wyn Jones.
Mae na dri ymgeisydd ar ôl yn y ras am arweinyddiaeth y blaid – Elin Jones, Leanne Wood a Dafydd Elis-Thomas. Roedd Simon Thomas wedi tynnu’n ôl yn gynharach y mis hwn.
Mae’r tri ymgeisydd wedi bod yn cynnal cyfres o hustyngau ar draws Cymru er mis Chwefror er mwyn cyflwyno eu gweledigaeth ar gyfer y blaid.
Yn hysting agored cyntaf gan y Blaid yng Nghaerdydd nos Fawrth dywedodd Leanne Wood mai creu swyddi fyddai ei blaenoriaeth tra bod Elin Jones yn dweud bod angen creu’r llwybr tuag at annibyniaeth. Buddsoddi mewn swyddi gwyrdd a’r diwydiant carbon isel oedd ateb Dafydd Elis-Thomas.
Fe fydd yr hysting olaf yn cael ei gynnal yng Nghastell-nedd heno.
Fe fydd pleidleisiau’r aelodau yn cael eu cyfri ar 15 Mawrth, wythnos cyn Cynhadledd Wanwyn y Blaid.