Nick Clegg
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi croesawu’r cyhoeddiad bod 3,000 o swyddi newydd i gael eu creu yn y DU gan gwmni gwestai.

Mae disgwyl i’r grŵp InterContinental Hotels, sy’n cynnwys y brand Holiday Inn, greu’r swyddi dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Nick Clegg: “Mae’n wych bod IHG yn tyfu eu busnes yn y DU ac yn creu 3,000 o swyddi. Mae’r sector gwasanaethu ym Mhrydain ymhlith y gorau yn y byd ac fe fydd cyn bo hir yn croesawu miliynau o westeion i fwynhau Llundain 2012.”

Roedd y cwmni yn lawnsio academi hyfforddiant heddiw er mwyn i bobl ifainc gael dysgu sgiliau’r diwydiant mewn coleg lleol cyn mynd i weithio yn un o’r gwestai.

Dywedodd Nick Clegg bod hyn yn “fuddsoddiad yn ngweithlu’r dyfodol.”

Mae gan IHG 275 o westai yn y DU. Fe fydd hyd at 1,100 o’r swyddi newydd yn cael eu creu eleni.