Mae’r gyrrwr bws fu mewn damwain tra’n cludo plant ysgol yn ôl o daith sgio yn Ffrainc yn dweud nad ydy’n cofio unrhyw beth am y ddamwain.
Mae’r gyrrwr, sydd wedi cael ei enwi mewn rhai adroddiadau fel Derek Thompson, 47 oed, yn cael ei holi ynglŷn â dynladdiad anfwriadol ac anafu anfwriadol.
Cafodd yr athro Peter Rippington, 59, ei ladd yn y ddamwain ar ôl i’r bws droi drosodd ar draffordd ger Rheims yn ardal Champagne-Ardenne ddydd Sul. Roedd ei wraig Sharon a’i ferch Amy ymhlith y rhai gafodd eu hanafu yn y ddamwain.
Roedd y bws yn cludo 29 o ddisgyblion o Ysgol Alvechurch yn Swydd Gaerwrangon.