Senedd Gwlad Groeg
Ym Mrwsel, mae gweinidogion cyllid parth yr ewro wedi cytuno ar fesurau i geisio achub Gwlad Groeg.

Yn dilyn trafodaethau a barodd am 12 awr, mae’r gweinidogion wedi dod i gytundeb i geisio achub Gwlad Groeg rhag methdalu.

Ond mae’r cytundeb wedi ei seilio ar ostwng dyledion Gwlad Groeg dros yr wyth mlynedd nesaf ond mae rhai sylwebwyr yn dweud nad yw’r cytundeb yn weithredol.