Dan y lach: Edwina Hart
Mae Llywodraeth  Cymru wedi colli sawl cyfle i fuddsoddi yn y wlad, yn ôl adroddiad beirniadol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan  Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Yn yr adroddiad, mae’r pwyllgor yn dweud bod diddymu Awdurdod Datblygu Cymru bum mlynedd yn ôl wedi golygu bod Cymru yn llai “gweledol” yn y farchnad fyd-eang.

Dywed y pwyllgor bod yn rhaid i Lyowdraeth Cymru ystyried ar fyrder sut mae nhw’n mynd i godi ymwybyddiaeth o Gymru dramor. Mae nhw’n dadlau y dylai’r Llywodraeth sefydlu asiantaeth benodol i hybu masnach, un ai fel rhan o Lywodraeth Cymru neu fel corff yn y sector preifat.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn dadlau nad oes gan Gymru yr adnoddau i ddenu buddsoddiad i’r wlad a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agosach gyda gwleidyddion a swyddogion yn Llywodraeth San Steffan er mwyn gwneud y mwya o’r cyfleon.

‘Beirniadaeth’

Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart hefyd wedi dod dan y lach am wrthod trafod datblygiadau economaidd gyda’r pwyllgor.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor yr Aelod Seneddol David Davies: “Mae Cymru bellach yn un o’r ardaloedd sy’n perfformio waethaf yn y DU yn nhermau denu buddsoddiad. Ni allwn ddibynnu ar ddulliau traddodiadol fel grantiau a chostau llafur isel i ddenu buddsoddiad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd mwy dyfeisgar i geisio denu buddsoddiad a datblygu strategaeth economaidd glir.

“Fe ddylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru fod yn barod i drafod gyda gweinidogion yn San Steffan ac mae penderfyniad Gweinidog Busnes Cymru i wrthod trafod gyda’r pwyllgor wedi bod yn siomedig iawn,” meddai.

‘Pryder’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott ei bod yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

Ond ychwanegodd bod amharodrwydd y Gweinidog Busnes Edwina Hart i roi tystiolaeth i’r pwyllgor “ar fater hollbwysig fel economi Cymru yn bryderus iawn.”

“Rwy’n credu bod hyn yn gamgymeriad dybryd ar ei rhan gan ei body n chwarae rol mor allweddol yn hybu Cymru fel gwlad sy’n agored i fusnes.”

Buddsoddi mewnol Cymru ‘wedi hanneru ers diddymu’r WDA’

Dywed Ceidwadwyr Cymru fod y penderfyniad i ddiddymu Awdurdod Datblygu Cymru wedi bod yn “gam yn ôl i Gymru”.

Wrth ymateb i’r adroddiad heddiw, dywedodd llefarydd Busnes y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay, fod y penderfyniad i ddiddymu’r WDA, a disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflawni’r un gwaith yn fewnol yn un “naïf.”

“Ers cael gwared â’r WDA, mae’r canran o fuddsoddi mewnol gan y DU i Gymru wedi hanneru. Dan y WDA, roedd gan Gymru un o’r lefelau uchaf o fuddsoddi mewnol o holl wledydd y DU, ond nawr Cymru yw’r ail isaf,” meddai Nick Ramsay.

“Mae angen i Weinidogion Llafur roi eu meddwl ar waith ynglyn â chreu amodau ar gyfer twf economaidd a denu pobol i greu gwaith yng Nghymru.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddechrau cyd-weithio’n adeiladol gyda’r Glymblaid yn San Steffan er mwyn cyflwyno neges unedig a hyder yn ein heconomi.”

‘Agwedd newydd tuag at fuddsoddiad’

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod diddymu’r WDA wedi bod yn ddechrau ar ffordd ‘ffres’ o ddenu buddsoddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llwyodraeth heddiw eu bod nhw “eisoes wedi cydnabod yr angen i ymestyn eu hymdrechion masnachol yn yr adeg economaidd anodd sydd ohoni ac yn y farchnad gynyddol gystadleuol. Mae ganddon ni dîm prosiectau mawr yn arwain ar fasnach a buddsoddiad.”

Dywedodd y llefarydd fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi derbyn eu cynnig i agor swyddfa newydd yn Llundain, a bod hynny’n gyfle i fabwysiadu “agwedd ffres tuag at fuddsoddi mewnol.

“Mae ein model newydd yn fwy hyblyg ac ymatebol ac addas ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na  adlais o Awdurdod Datblygu Cymru, a oedd wedi chwythu ei blwc.”