Papur newydd y Sun
Mae disgwyl y bydd Rupert Murdoch yn hedfan i Brydain heddiw ar ôl i 10 o newyddiadurwyr papur newydd y Sun gael eu harestio mewn cysylltiad â thaliadau llwgr.

Mae rhai yn y papur newydd yn anhapus fod Pwyllgor Safonau Rheolaeth cwmni News Corporation – a gafodd ei greu yn dilyn y sgandal hacio ffonau symudol – wedi rhoi’r wybodaeth i’r heddlu a arweiniodd at yr arestiadau.

Mae Rupert Murdoch, cedeirydd News Corporation, eisoes wedi datgan na fydd yn gwerthu na chau papur newydd y Sun, ac mae’n gobeithio tawelu meddwl y staff yn ystod ei ymweliad â’r swyddfa yn Wapping, dwyrain Llundain.

Cafodd pump o newyddiadurwyr y Sun – gan gynnwys y dirprwy olygydd, y golygydd lluniau a’r prif ohebydd – eu harestio gan newyddiadurwyr Scotland Yard ddydd Sadwrn ar amheuaeth o daliadau amhriodol i heddlu a swyddogion cyhoeddus.

Cafodd pedwar o weithwyr cyfredol a chyn-weithwyr y papur eu harestio bythefnos ynghynt, ac fe arestiwyd uwch ohebydd ym mis Tachwedd.

Mae pob un wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth a does neb wedi ei gyhuddo hyd yma.

Mae Trevor Kavanagh, golygydd cysylltiol y Sun, wedi beirniadu Heddlu’r Met yn llym ac wedi mynegi ei bryderon ynglŷn â’r Pwyllgor Safonau Rheolaeth.

“Mae yna anesmwythder ynglŷn â’r modd y mae rhai o newyddiadurwyr gorau Stryd y Fflyd wedi eu harestio ar sail tystiolaeth y mae’r Pwyllgor Safonau Rheolaeth wedi ei roi yn nwylo’r heddlu,” meddai ddydd Llun.

Gwrthododd News International gadarnhau pryd yn union fyddai Rupert Murdoch yn cyrraedd Llundain, ond cadarnhawyd y byddai cyn diwedd yr wythnos.