Chris Huhne
Mae disgwyl y bydd y cyn-ysgrifennydd ynni, Chris Huhne, yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Chris Huhne wedi ei gyhuddo o ofyn i’w gyn-wraig, Vicky Pryce, gymryd pwyntiau cosb ar ei ran ar ôl iddo gael ei ddal yn goryrru bron i ddegawd yn ôl.
Honnir fod camera cyflymder wedi dal ei gar yn mynd yn rhy gyflym ar draffordd rhwng Maes Awyr Stansted yn Essex a Llundain ym mis Mawrth 2003.
Ni ddaeth yr honiadau i’r amlwg nes i briodas 26 mlynedd yr Aelod Seneddol ddod i ben yn 2010 wedi iddo gael perthynas â’i swyddog cysylltiadau â’r wasg, Carina Trimingham.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ddechrau’r mis y byddai yn cael ei erlyn, ac fe gadarnhaodd Chris Huhne bryd hynny ei fod yn ymddiswyddo o’r Cabinet.
Mae wedi parhau yn Aelod Seneddol yn etholaeth Eastleigh yn Hampshire.
Bydd ei gyn-wraig, sy’n wynebu’r un cyhuddiad, yn ymddangos yn y doc â’i chyn-ŵr yn Llys Ynadon San Steffan yn Llundain am 10am.