Abu Qatada
Cafodd clerigwr radical ei ryddhau ar fechniaeth neithiwr ar ôl treulio chwe blynedd a hanner yn y carchar.
Ond fe fydd Abu Qatada, sy’n peryglu diogelwch y DU, yn wynebu amodau mechniaeth llym.
Mae Qatada, 51 oed, wedi cael ei wahardd rhag mynd a’i blentyn i’r ysgol, fe fydd yn gorfod aros yn ei gartref am 22 awr bob dydd, ac nid yw’n cael siarad ag unrhyw un onibai eu bod nhw wedi cael eu harcwhilio gan y gwasanaethau diogelwch yn gyntaf.
Cafodd Qatada ei gludo o garchar Long Lartin yn Evesham i’w gartref yn Llundain neithiwr.
Roedd Qatada wedi bod yn brwydro yn erbyn ymgais i’w anfon yn ôl i wlad yr Iorddonen lle mae’n wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth.
Cafodd Qatada ei ryddhau ar ôl i Lys Iawnderau Ewrop benderfynu na fyddai’n cael achos teg yn ei wlad ei hun.
Dywed Downing Street eu bod yn ystyried yr holl opsiynau i anfon Qatada yn ôl mor fuan â phosib.