Mandy Williams-Davies
Mae un o gynghorwyr Plaid Cymru wedi galw am drafodaeth frys i edrych ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog.
Mae Mandy Williams-Davies yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gadw llygad ar y dyfodol wrth iddi ymateb i adroddiad annibynnol – sy’n argymell tynnu’r 12 gwely i gleifion o Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog.
Mae’r cynghorydd wedi galw am gyfarfod cyhoeddus brys gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn ogystal ag arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, Dafydd Elis-Thomas AC ac Elfyn Llwyd AS er mwyn trafod yr argymhellion.
‘Siomedig’
Yn ôl Mandy Williams-Davies, sy’n cynrychioli Diffwys a Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd, mae pobol yn “hynod siomedig a phryderus” gyda’r argymhelliad i “gau’r unig ward sydd â gwlau ynddi yn Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog.”
Byddai newid o’r fath yn golygu bod y dref a’r ardal gyfagos yn colli’r cyfleusterau a’r adnoddau aros dros nos o’u hysbyty lleol.
“Mae’r Ysbyty Coffa yn adnodd gwerthfawr i’r dref,” meddai Mandy Williams-Davies.
“Rydym yn ymwybodol iawn y bydd darpariaeth iechyd a gofal yn ein cymunedau dros y ddegawd nesaf yn gorfod ystyried anghenion niferoedd cynyddol o’n poblogaeth sy’n heneiddio.
“Rydym hefyd angen datblygu atebion blaengar o fewn ein cymunedau i adlewyrchu’r costau cynyddol sydd i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru wrth gyrraedd gwasanaethau,” meddai.
Byddai’r argymhellion yn golygu bod yn rhaid i gleifion sydd angen gwasanaethau gofal diwedd oes a nyrsio yn y gymuned, chemotherapi a phelydr-X, yn ogystal â chleifion sydd angen gwely dros nos, deithio i Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, 13 milltir i ffwrdd.
‘Ymgynghori’
Ond dywedodd Mandy Williams-Davies heddiw ei bod wedi cael sicrwydd gan yr Aelod Cynylliad lleol, Dafydd Elis-Thomas, ei fod wedi trafod â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, “na fydd unrhyw argymhellion yn cael eu gweithredu nes bod cyfnod ymgynghori llawn wedi ei gwblhau.”
Mae’r cynghorydd nawr yn galw am gyfrafod cyhoeddus brys gyda’r Bwrdd Iechyd a’r arweinwyr lleol – “er mwyn sicrhau bod y broses ymgynghori yn un effeithiol,” meddai.