Milly Dowler
Mae ymgais Levi Bellfield i apelio yn erbyn ei ddedfryd am gipio a llofruddio Milly Dowler wedi methu.
Cafodd cais Levi Bellfield ei wrthod yn y Llys Apêl yn Llundain heddiw.
Cafodd ei garcharu am oes ym Mehefin 2011 ar ol ei gael yn euog o gipio a llofruddio Milly Dowler yn dilyn achos yn yr Old Bailey.
Cafodd Milly ei chipio tra’n cerdded adref o’r ysgol i’w chartref yn Walton-on-Thames yn Surrey, ym mis Mawrth 2002.