Harry Redknapp
Mae’r rheolwr pêl-droed Harry Redknapp wedi ei gael yn ddieuog o osgoi talu treth.
Roedd rheolwr Tottenham Hotspur wedi gwadu ei fod wedi osgoi talu treth ar fwy na £189,000 mewn cyfrif banc yn Monaco.
Cafwyd ei gyd-ddiffynydd Milan Mandaric a chyn brif weithredwr Portsmouth Peter Storrie hefyd yn ddieuog o fethu â talu treth o £600,000 mewn achos blaenorol.
Roedden nhw’n rhan o ymchwiliad £8 miliwn gan yr heddlu.
Roedd y reithgor wedi derbyn tystiolaeth Redknapp a Mandaric nad oedd y cyfrif ym Monaco, oedd yn enw ci Redknapp, Rosie, yn ymwneud â materion pêl-droed.
Roedd yr achos yn Llys y Goron Southwark yn Llundain wedi bygwth gyrfa Redknapp sy’n ffefryn i olynu Fabio Capello fel rheolwr tîm Lloegr yn yr haf.