Daeth y cyhoeddiad heddiw y  bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 yn cael ei chynnal  ym Moncath.

Cafodd Boncath ei dewis allan o fwy na deg ardal posib.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng ngogledd y sir, lle mae’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg Sir Benfro yn byw.

Ymysg yr enwau ar y rhestr oedd Cilwendeg ger Boncath, hen feysydd awyr yn Nhŷ Ddewi a Thredeml, safle Castell Caeriw a maes sioe Hwlffordd.

Cilwendeg

“Da ni’n mynd i Gilwendeg, tu fas i Foncath,” dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod heddiw.

“Edrychon ni ar dros ddeg o leoliadau i gyd,” dywedodd  Aled Sion wrth Golwg 360. “Mae ’na gryfderau ’da pob safle.”

Er bod sïon wedi bod am gynnal yr Eisteddfod yn Ne’r Sir, dywedodd Aled Sion mai canolbarth y sir oedd ffocws yr ymchwiliad am safle.

“Ond doedd dim byd yn addas am resymau ymarferol, ac rydan ni am gael safle da ac addas, er mwyn cael Eisteddfod lwyddiannus,” meddai.

“Safle da iawn”

“Mae’n safle da iawn,” dywedodd Aled Sion am y safle yng Nghilwendeg.

“Mae’n wastad, mae gwasanaethau ar gael, ac mae yna hewl yn mynd trwyddi.

“Cyfres o ffactorau sy’n gwneud safle da, ac mae’r ffactorau i gyd ar gael yng Nghilwendeg.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2013 yn cael ei chynnal rhwng Mai 27 a Mehefin 1, 2013.