Mae cwpwl enillodd £10.2 miliwn ar y loteri yn 2005 wedi parhau i hawlio budd-daliadau gan y wladwriaeth, datgelwyd heddiw.

Am nad yw’r budd-daliadau yn cael eu dosrannu ar sail prawf modd mae Mick and Jean O’Shea yn hawlio £500 bob mis o lwfans anabledd.

Dywedodd y cyn-adeiladwr wrth bapur newydd y Sun ei fod wedi “gweithio am 40 mlynedd ac yn teimlo fy mod i’n haeddu’r arian. Rydw i wedi bod yn ei dderbyn ers 1996”.

“Roeddwn i wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau fy mod i wedi ennill, ond dyw e ddim o bwys am nad oes yna brawf modd.”

Ychwanegodd Jean O’Shea, sy’n 72 oed, fod y lwfans yn cael ei dalu “oherwydd ei lygaid a’i grydcymalau”.

Mae Mick O’Shea, sy’n 73, hefyd yn derbyn car newydd bob tair blynedd gan gynllun y Llywodraeth ar gyfer gyrrwr anabl.

Mae’r ddau yn byw yn Sneinton, Nottingham, ond yn ôl adroddiadau mae ganddyn nhw gartref arall yn Swydd Kerry, Iwerddon.

Dywedodd Mick O’Shea eu bod nhw’n rhoi 10 gwaith cymaint i elusennau bob blwyddyn Nhaf oedden nhw yn ei dderbyn gan y llywodraeth.