Kenneth Clarke
Ni fydd yn bosib i lofruddwyr na threiswyr allu hawlio iawndal am anafiadau personol, dan drefniant newydd a gyhoeddwyd gan Kenneth Clarke heddiw.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder fod 3,000 o droseddwyr a chyn-droseddwyr wedi gwneud cais am iawndal.
Dywedodd Kenneth Clarke fod £57 miliwn wedi ei dalu i droseddwyr dros y ddegawd diwethaf.
Dywedodd y buasai’r cyfanswm a dalwyd am anafiadau dan y system yn aros tua’r un faint.
“Yn hytrach na fod iawndal yn mynd i bobl na anafwyd yn ddifrifol, neu i’r rhai sydd wedi bod yn torri’r gyfraith, bydd yn cael ei dargedu lle mae’n cyfrif – sef yr anafiadau mwyaf difrifol.
Dim ond achosion difrifol
Bydd yna ddiwedd hefyd i daliadau iawndal am nifer o anafiadau llai difrifol, megis torri bysedd traed neu cleisio asennau.
Dywedodd mai bwriad y cynlluniau oedd i sicrhau cefnogaeth ymarferol o safon i’r rhai a’u hanafwyd yn ddifrifol.
Bydd yna hefyd côd dioddefwyr newydd, “fel bod dioddefwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn ystod yr ymchwiliad a’r achos llys, ac yn gwybod lle i droi pan mae pethau’n mynd o’i le.”
Newid y system
Mae’n fwriad hefyd i gynnwys trigolion Prydeinig a anafwyd mewn ymosodiadau terfysgol dramor yn y system newydd.
Ar hyn o bryd, mae yna 25 categori o anaf, yn codi o band 1, gyda taliad o £1,000, i’r band mwyaf difrifol, 25. Ceir taliad iawndal o £250,000 yn y band yma.
Y bwriad yw dileu y pump band isaf, a chwtogi taliadau rhwng band 6 a 12. Buasai’r taliadau am yr anafiadau mwyaf difrifol yn aros yr un peth, dywedodd Kenneth Clarke.