Dywed yr heddlu eu bod yn cadw “meddwl agored” ynglŷn â chysylltiad posib rhwng dau dân mewn tre yn y Cymoedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn fflat ail lawr yn Heol Aneurin Bevan, Rhymni, Caerffili tua 4.30am fore dydd Sul.

Fe lwyddodd dau berson i ddianc yr adeilad drwy neidio allan o ffenest.

Mae’r ddau yn yr ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg ac anafiadau difrifol i’w cefnau.

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cafodd Heddlu Gwent eu galw i dân arall oedd wedi ei gynnau’n fwriadol, lai na hanner milltir i ffwrdd yn Stryd Goshen.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y tân wedi diffodd cyn iddyn nhw gyrraedd ond bod difrod wedi ei achosi i ddrws ffrynt y tŷ. Roedd un dyn yn y tŷ ar y pryd ond ni chafodd ei anafu.

Mae’r heddlu’n credu bod y ddau dân wedi eu cynnau’n fwriadol ac mae nhw’n ystyried a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu a Heddlu Gwent ar 101 neu  Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.