Gary Speed a'i wraig Louise
Fe allai Gary Speed fod wedi lladd ei hun yn ddamweiniol, dywedodd crwner heddiw.
Wrth gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd y crwner Nicholas Rheinberg bod cyn reolwr tim pel droed Cymru wedi marw o ganlyniad i grogi, ond “nad oedd digon o dystiolaeth i brofi ei fod wedi bwriadu gwneud hynny neu a oedd wedi digwydd yn ddamweiniol.”
Clywodd cwest i farwolaeth Gary Speed heddiw ei fod wedi anfon neges destun at ei wraig ddyddiau’n unig cyn ei farwolaeth lle roedd wedi “cyfeirio yn nhermau lladd ei hun.”
Cafwyd hyd i gorff Gary Speed yn crogi yn ei gartref yn Huntington yn Sir Gaer ar 27 Tachwedd y llynedd. Ei wraig Louise oedd wedi dod o hyd i’w gorff.
Dywedodd Nicholas Rheinberg heddiw y gallai’r tad i ddau o blant fod wedi “syrthio i gysgu” gyda’r cebl o gwmpas ei wddf tra’n eistedd ar y grisiau yng ngarej ei gartref.
‘Sgwrs ffon’
Dywedodd Louise Speed wrth y cwest yn Warrington ei bod hi wedi cael sgwrs destun gyda Speed, 42 oed, ddyddiau’n unig cyn iddo farw.
Clywodd y cwest ei fod wedi siarad yn “nhermau lladd ei hun” ond roedd wedi wfftio’r syniad, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda’i wraig a’u dau fab.
Dywedodd Louise Speed bod y negeseuon yn cyfeirio at ambell ffrae yn eu priodas ond roedd hefyd wedi dweud “mor bwysig oedd yr hogiau” ac am “symud ymlaen”.
‘Dadl’
Roedd y cwpl wedi cael dadl ar y noson cyn iddo farw ar ôl iddyn nhw ddod adre ar ôl cael cinio yn nhŷ ffrind, meddai Louise Speed.
Roedd Louise Speed wedi awgrymu ei bod hi am fynd allan yn y car ond roedd ei gŵr wedi ei hatal rhag mynd.
“Fe es i fyny’r grisiau a gorwedd ar y gwely am rhyw bump i ddeg munud,” meddai wrth y crwner Nicholas Rheinberg.
“Wedyn nes i benderfynu mynd allan yn y car, i glirio fy mhen a chael cyfle i feddwl,” meddai.
Dywedodd na aeth hi yn bell cyn stopio i ffonio ei gŵr ar ei ffôn symudol. Nid oedd yn ateb ei ffôn, a dychwelodd i’r tŷ a cheisio’n ofer i’w ffonio eto.
Fe benderfynodd aros yn y car nes ei bod yn gallu mynd mewn i’r tŷ. Ar ôl cael rhywfaint o gwsg fe ddeffrodd am 6am ac aeth i’r stafell ymolchi tu allan.
Dim nodyn
Sylwodd bod allweddi oedd fel arfer yn cael eu cadw yno wedi mynd ac aeth i’r sied i weld os oedd ei gŵr yno, cyn mynd i’r garej.
“Es i at y ffenest a dyna lle nes i ei weld,” meddai.
Roedd yn amlwg ei fod yn crogi, meddai.
Dywedodd ei bod wedi deffro’r plant er mwyn eu cael nhw i agor y drws iddi a’i bod wedi galw’r gwasanaethau brys.
Fe gadarnhaodd Louise Speed nad oedd ei gŵr wedi gadael nodyn cyn ei farwolaeth.
Teyrngedau
Yn dilyn ei farwolaeth cafodd llu o deyrngedau o bedwar ban byd eu rhoi i Speed, fu’n chwarae i Sheffield United, Everton, Newcastle, Leeds a Bolton yn ystod ei yrfa.
Fe fydd gwasanaeth coffa cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.
Mae Clwb Pêl-droed Cymru hefyd wedi dweud y bydd y gem Cymru yn erbyn Costa Rica ar 29 Chwefror er cof am y cyn-reolwr.
Cafodd Chris Coleman ei benodi yn reolwr newydd tîm Cymru yn gynharach y mis hwn.