Mae’r cefnwr rygbi Delon Armitage wedi cael ei wahardd gan Undeb Rygbi Lloegr, yn dilyn digwyddiad mewn clwb nos.

Cafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad mewn clwb nos yn Torquay, yn  oriau man bore Sul, pan gafodd ddyn ifanc niwed i’w wefus.

Roedd Armitage wedi chwarae i dîm y Saxons y diwrnod cynt. Enillodd y Sacsoniaid gyda sgôr o 23-17 yn erbyn yr Irish Wolfhounds yn Exeter.

Mae Armitage yn chwarae i Wyddelod Llundain yn Uwch Gynghrair Lloegr, a chafodd ei gem gyntaf i Loegr yn Nhachwedd 2008.

Y cefnwr mewn trafferth eto

Ym mis Tachwedd 2011, cafodd Armitage ei wahardd rhag chwarae am bump wythnos gan Undeb Rygbi Lloegr  yn dilyn tacl peryglus ar Tom Biggs o dîm Caerfaddon.

Dyma oedd ei bedwaredd gwaharddiad ers 2011.

Cafodd ei wahardd rhag chwarae i Loegr yn erbyn Ffainc yn Nghwpan y Byd, yn dilyn tacl uchel. Roedd hyn yn dilyn gwaharddiadau am wthio swyddog ar ddechrau 2011, ac am bwno Stephen Myler, maswr Northampton, yn Ebrill 2011.

Gwahardd y Sacsoniaid

Er iddo sgorio 7 cais mewn 26 gem i Loegr, dywedodd Stuart Lancaster, prif hyfforddwr tîm Lloegr, fod Armitage yn cael ei wahardd o Garfan Prif Chwaraewyr Sacsoniaid Lloegr.

“Rydym ni’n cymryd materion am ymddygiad chwaraewyr Lloegr o ddifrif, ac felly wedi penderfynu gwahardd Delon o’r garfan tra’n aros am ymchwiliad yr heddlu. Byddwn ni wedyn yn ystyried os oes angen gweithredu’n bellach.”

Mae’r achos yn dilyn gwaharddiad diweddar y mewnwr Danny Care o dîm rygbi Lloegr, wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru ar Ddydd Calan.