Warren Gatland
Bydd Warren Gatland ddim yn cyhoeddi’r tîm i chwarae yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad tan Ddydd Gwener.
Yn dilyn llu o anafiadau, mae Gatland yn wynebu her anferth. Mae anafiadau ac ymddeoliad Shane Williams wedi dwyn traean o’r tîm a fu’n cystadlu yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd.
Bydd y tîm yn cael ei gyhoeddi am ganol dydd, ar ddydd Gwener y 3 Chwefror.
Bydd Cymru yn croesi’r môr er mwyn chwarae Iwerddon yn Stadiwm Aviva ar ddydd Sul, 5 Chwefror. Mae’r gêm yn dechrau am 3 o’r gloch.
Anafiadau tîm Cymru – y rhestr yn tyfu
Ni fydd Gethin Jenkins ar gael am bump wythnos, wedi iddo anafu ei ben-glin. O achos ei ben-glin hefyd, mae’n annhebyg y bydd Jamie Roberts ar gael ar gyfer y gêm. Mae Dan Lydiate yn dioddef gydag anaf i’w ffêr.
Mae Alun Wyn Jones yn gwella ar ôl triniaeth i fys mawr ei droed. Gwella wedi triniaeth hefyd yw hanes clo arall y tîm, Luke Charteris.
Mae Iwerddon hefyd yn wynebu her, gyda’r capten byd enwog Brian O’ Driscoll wedi ei anafu.
Stephen Jones – yma o hyd!
Cafodd Stephen Jones alwad hwyr i’r garfan, oherwydd anaf i Rhys Priestland, maswr newydd Cymru. Aeth Jones ddim gyda’r garfan wreiddiol o 35 i’r lleoliad hyfforddi yn Gdansk, Gwlad Pwyl. Ond mae’n bosib caiff y cyfle i ychwanegu i’w 104 o gapiau i Gymru.
Mae disgwyl i James Hook ddechrau’r gêm fel maswr, gyda Stephen Jones ar y fainc.
Yr wythnos hon, mae’r tîm wedi ymgartrefu yn y pencadlys hyfforddi ym Mro Morgannwg.
Gemau eraill
Bydd yr Eidal yn mynd i Baris ar gyfer gêm cyntaf y bencampwriaeth, ar bnawn Sadwrn.
A bydd yr Alban yn croesawu’r ‘auld enemy’ i Gaeredin, gyda’r gêm yn dechrau am 5 o’r gloch.