Anfield yn Lerpwl
Mae dyn o Ogledd Cymru gafddo ei arestio ar ôl honiadau ei fod wedi gwneud ystumiau hiliol yn ystod gêm Cwpan FA Manchester United yn erbyn Lerpwl wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth.
Cafodd y dyn 58 oed ei arestio nos Sadwrn, oriau wedi’r gêm yn Anfield.
Yn gynharach yn y noson, cafodd y cefnogwr Lerpwl ei ffilmio ar gamerau teledu fel petai’n gwneud ystumiau hiliol – lluniau a ymddangosodd ar y we, gan ysgogi nifer o wylwyr i wneud cŵyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi heddiw fod “dyn 58 oed o ogledd Cymru wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drosedd o aflonyddu ar drefn gyhoeddus, yn dilyn gêm Lerpwl a Manchester United, a bellach wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.”
Hon oedd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm ers i ymosodwr Lerpwl, Luis Suarez, gael ei atal am wyth gêm gan yr FA am wneud sylwadau hiliol am gapten ag ymosodwr Manchester United, Patrice Evra.
Cyn y gêm, a welodd Lerpwl yn curo 2-1, roedd cyhoeddwr y stadiwm eisoes wedi rhybyddio cefnogwyr na fyddai ymddygiad hiliol na homoffobaidd yn cael ei oddef.
Mae’n debyg bod Lerpwl ar hyn o bryd yn ystyried gwahardd cefnogwyr sy’n cyflawni troseddau o’r fath o’u clwb am oes.