Gary Speed
Fe fydd cwest i farwolaeth cyn reolwr tîm pêl-droed Cymru Gary Speed yn cael ei gynnal heddiw.

Cafwyd hyd i Gary Speed, 42 oed, yn crogi yn ei gartref yn Sir Gaer fis Tachwedd y llynedd. Ei wraig Louise oedd wedi darganfod ei gorff.

Dywed yr heddlu nad oes amgylchiadau amheus ynglŷn â marwolaeth y tad i ddau.

Yn dilyn ei farwolaeth cafodd llu o deyrngedau o bedwar ban byd eu rhoi i Speed, fu’n chwarae i Sheffield United, Everton, Newcastle, Leeds a Bolton yn ystod ei yrfa.

Roedd Gary Speed wedi ymddangos ar raglen BBC 1 Football Focus y diwrnod cyn iddo farw.

Fe fydd gwasanaeth coffa cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

Mae Clwb Pêl-droed Cymru hefyd wedi dweud y bydd y gem Cymru yn erbyn Costa Rica ar 29 Chwefror er cof am y cyn-reolwr.

Cafodd Chris Coleman ei benodi yn reolwr newydd tîm Cymru yn gynharach y mis hwn.

Fe fydd y cwest yn cael ei gynnal am 2pm yn Llys y Crwner Warrington. Y crwner yw Nicholas Rheinberg.