Fe dderbyniodd perchnogion ffermydd gwynt £24 miliwn y llynedd am ddiffodd eu melinau.
Fe ddatgelodd y Llywodraeth fod yr arian wedi’i dalu am fod yr amgylchiadau’n anaddas ar gyfer cynhyrchu trydan – naill ai am fod gormod o wynt neu rhy ychydig.
Ond, yn ôl y Gweinidog Ynni yn San Steffan, Charles Hendry, roedd deg gwaith yr arian hwnnw wedi’i dalu i bob math o gynhyrchwyr trydan am orfod atal eu prosesau cynhyrchu.
Pan fydd gwyntoedd uchel, dyw’r grid cenedlaethol ddim yn gallu delio â’r holl drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan y melinau.
Yn ôl Charles Hendry, roedd y Llywodraeth yn ceisio gwella pethau fel bod ynni’n cyrraedd y llefydd iawn.