Yr arddangosfa ddiwetha' (o wefan y gystadleuaeth)
Artistiaid o Ciwba, India, Lithwania, Mecsico, Slofenia, Sweden a Lloegr sydd ar restr fer y wobr gelf Gymreig Artes Mundi.

Fe fydd y saith yn cystadlu am y wobr o £40,000, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd eleni. Fe fydd y chwech arall yn derbyn £4,000 yr un.

Dyma’r bumed gwobr Artes Mundi i gael ei threfnu gan y sefydliad celf gyfoes o Gaerdydd, sy’n dweud bod yr holl artistiaid eleni’n cynnig gwedd newydd a gwreiddiol ar gymdeithas yr 21ain ganrif.

Fe gawson nhw’u dewis o blith 750 o enwebiadau o 90 o wledydd gan Sofía Hernández Chong Cuy, sef Curadur Celf Gyfoes Colección Patricia Phelps de Cisneros, Efrog Newydd, ac Anders Kreuger, Curadur Galeri M HKA yn Antwerp, Gwlad Belg.

Y saith artisit sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw Miriam Bäckström o Sweden, Tania Bruguera o Giwba, Phil Collins o Loegr, Sheela Gowda o India, Teresa Margolles o Fecsico, Darius Mikšys o Lithiwania ac Apolonija Šušteršič o Slofenia.

Y wobr – y cefndir

Mae gwobr Artes Mundi wedi bod yn rhoi llwyfan i gelf y byd yng Nghaerdydd ers sefydlu’r wobr yn 2002, gyda phwyslais ar gefnogi “artistiaid gweledol cyfoes sy’n torri tir newydd”.

Dywedodd llefarydd ar ran Artes Mundi wrth Golwg 360 fod y wobr wedi creu ymwybyddiaeth newydd o gelf gyfoes yn y brif ddinas, a’i bod wedi deffro “hyder newydd yng Nghaerdydd ym maes celfyddyd”.

Mae’r rhestr fer wedi cynnwys artistiaid o Gymru yn y gorffennol, ac mae’r wobr wedi denu “diddordeb cynyddol gan artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru,” meddai’r trefnwyr.

Yn ôl Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Artes Mundi, Ben Borthwick, roedd “dewis cryf iawn o enwebiadau” ar gyfer dewis y rhestr fer eleni.

Dwy arddangosfa

Bydd gwaith yr artistiaid sydd ar y rhestr fer yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Caerdydd am 14 wythnos o fis Hydref ymlaen, wrth i banel o bump beirniad fynd ati i benderfynu pwy fydd yn ennill gwobr mwya’r byd am gelf weledol gyfoes.

Bydd un o’r artistiaid o’r rhestr fer hefyd yn cael y cyfle i greu ei arddangosaf ei hun yn Llandudno am y tro cyntaf eleni, yn sgil cytundeb newydd rhwng Artes Mundi ag Oriel Mostyn Llandudno.