Bryn Terfel
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd eisiau gweld Gŵyl y Faenol yn ôl yng ngogledd Cymru’r flwyddyn nesa’, meddai.

Eisoes, mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi ddechrau’r wythnos y bydd yn cynnal pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth pop yn rhan o Ŵyl y Byd Canolfan y Southbank, ychydig cyn y Gemau Olympaidd.

Nid yw’r ŵyl wedi’i chynnal ar Stad y Faenol ger Bangor ers pedair blynedd, oherwydd trafferthion ariannol.

Yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd mae’r digwyddiad yn y Southbank yn gyfle i “ailgydio” yn yr ŵyl. “Rydan ni’n siomedig bod yr ŵyl ddim wedi digwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’ yma, o gwbl, yn unrhyw le,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.

‘Brand’

Mae penderfyniad Bryn Terfel i gynnal Gŵyl y Faenol yn y Southbank yn “profi bod y brand wedi’i sefydlu ac wedi hen ennill ei phlwy,” yn ôl Dyfed Edwards.

“Mae’r Faenol a Bryn Terfel bellach yn enwau sy’n denu cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae hynny yn creu gobaith i’r dyfodol – y bydd yr ŵyl yn gallu ymweld â’r Southbank oherwydd amgylchiadau arbennig o gwmpas yr Olympics, ond yn dychwelyd i’w phriod le maes o law.”

Dywedodd y byddai eleni’n “gyfle i weld a ydi’r fformiwla’n gweithio ac efallai y gallwn ni adeiladu arni, a chael yr ŵyl yn ôl i’r Faenol.”