Michael Gove
Mae’r Ysgrifennydd Addysg Michael Gove wedi awgrymu bod trethdalwyr yn rhoi llong bleser newydd i’r Frenhines i nodi ei Jiwbili Diemwnt.
Roedd Michael Gove wedi cyflwyno’r syniad mewn llythyr i’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt – mae’r llythyr bellach wedi dod i law’r Guardian. Mae nhw’n awgrymu y byddai’r llong yn costio £60 miliwn.
Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu Michael Gove am wneud awgrym o’r fath yn ystod cyfnod o doriadau i gyllidebau ysgolion.