Mae dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerbyd pedair olwyn a beic modur yng Nghaerdydd brynhawn ddoe.

Digwyddodd y ddamwain ychydig wedi 3pm, ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerbyd gyriant pedair olwyn a beic modur Suzuki du, ar Heol Caerffili, Caerdydd.

Cafodd gyrrwr y beic modur anafiadau i’w wyneb, a chafodd ei gyd-deithwraig anafiadau difrifol i’w phen yn sgil y ddamwain.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi’r ddamwain. Dywed yr heddlu bod y ddynes mewn cyflwr “difrifol.”

Mae Heddlu’r De nawr yn apelio am wybodaeth wedi’r ddamwain ddifrifol brynhawn ddoe, yn enwedig gan dystion a welodd y cerbydau yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r Uned Heddlua Ffyrdd ar 101, neu’n anhysbys wrth gysylltu â Thaclo’r Tacle ar 0800555111, gan nodi’r rhif cyfeirnod *016.