Mae dyn yn cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i fam a merch wyth oed gael eu darganfod mewn tŷ ar gyrion Leeds.

 Cafodd plismyn hyd i gyrff y ddwy ddoe, ac maen nhw wedi cael eu henwi fel Sarah Laycock, 31 oed a’i merch Abigail.

 Yn y ty yn Garforth hefyd roedd merch bedair oed a oedd yn dioddef mân anafiadau. Aed â hi i ysbyty Leeds ond cafodd ei rhyddhau’n ddiweddarach.

 Cafodd dyn 36 ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

 Cafodd ei enwi’n ddiweddarach fel John Miller, partner Sarah Laycock.