Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn galw ar arlywydd Syria i roi’r gorau i ladd ei bobl ei hun.
Mewn anerchiad allweddol i gynhadledd ar ddemocratiaeth yn y byd Arabaidd, dywedodd Ban Ki-moon fod dyddiau unbenaethiaid a llywodraethau teuluol drosodd yn y Dwyrain Canol.
“Heddiw, dw i’n dweud eto wrth Arlywydd Bashar Assad Syria: Rhowch y gorau i’r trais. Rhowch y gorau i ladd eich pobl eich hun,” meddai.
“Mae chwyldroadau’r Gwanwyn Arabaidd yn dangos na fydd pobl yn barod i dderbyn gormes mwyach.”
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod dros 5,000 o bobl wedi cael eu lladd gan lywodraeth Syria dros y 10 mis diwethaf wrth i gyfundrefn Assad geisio mygu’r gwrthryfel yn eu herbyn.
Mae’r teulu Assad wedi bod mewn grym yn Syria ers bron i 40 mlynedd.