Antony Worrall Thompson
Mae’r cogydd Antony Worrall Thompson wedi dweud ei fod yn bwriadu cael triniaeth ar ôl iddo gael ei arestio ddoe am ddwyn caws a gwin o siop Tesco yn Henley-on-Thames.
Dywedodd seren y gyfres Ready Steady Cook, sy’n dod o High Wycombe, ei fod wedi bod yn ceisio deall pam ei fod wedi dwyn yr eitemau ond nad oedd yn gallu esbonio ei ymddygiad.
“Does dim rheswm o gwbl,” meddai wrth y Daily Express. Dywedodd ei fod yn teimlo embaras, ac yn ymddiheuro wrth ei deulu a’i ffrindiau.
Mae’n credu ei fod efallai wedi dwyn yr eitemau fel ffordd o ofyn am help ar ôl iddo fod dan “bwysau aruthrol”.
Ond dywedodd y cogydd, sy’n 60 oed, nad oedd eisiau rhoi’r bai ar bwysau chwaith.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 60 oed wedi cael rhybudd yn dilyn achos o ddwyn o siop.