Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Heddlu Dyfed Powys ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y chwarel yn Llanymynech ger y Trallwng ddydd Sadwrn.
Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn 57 oed, sy’n byw yn ardal Croesoswallt.
Mae’r Heddlu wedi dweud nad oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd bod yna amgylchiadau amheus.
“Daethpwyd o hyd i’r corff ddydd Sadwrn, 7 Ionawr, ond ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod pryd yn union fuodd ef farw ac rydym yn parhau i ymchwilio i’w symudiadau dros y penwythnos,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Greg Williams.
Dywedodd fod y crwner wedi’i hysbysu.
“Os oedd unrhyw un allan yn cerdded yn yr ardal ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, neu os welsant rywbeth a allai’n cynorthwyo gyda’n hymholiadau, cysylltwch â Gorsaf Heddlu’r Trallwng ar 101”.