Cymru yw un o’r llefydd mewn peryg mwyaf o gynnydd mewn tlodi plant yng ngwledydd Prydain, yn ol adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan yr Ymgyrch i Ddileu Tlodi Plant.

Un o’r rhesymau am hyn yw bod Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy’n dod o gartrefi lle mae’r rhieni yn ddi-waith o ganlyniad i’r argyfwng economaidd – cynnydd o 16% i 18% rhwng 2008 a 2011 sy’n fwy nac unrhyw un o’r rhanbarthau yn Lloegr.

Mae’r ymgyrch yn cyhoeddi ffigyrau newydd heddiw, map o dlodi yng Nghymru  gyda data yn dangos cyfradd tlodi ar gyfer pob ward, awdurdod lleol ac etholaeth.
Yr awdurdodau lleol gyda’r cyfraddau uchaf o dlodi plant yng Nghymru yw:

Blaenau Gwent 29%
Merthyr Tudful 28%
Caerdydd 26%
Caerffili 25%
Castell-nedd Port Talbot 25%
Casnewydd 25%
Rhondda, Cynon, Taf 25%
Prydain ar gyfartaledd 21%

‘Gweithredu ar frys’

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a San Steffan weithredu ar frys i atal cynnydd mewn tlodi plant,” meddai Alison  Garnham, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymgyrch.

“Rhaid i swyddi da i rieni yng Nghymru fod yn flaenoriaeth ac mae angen i’r sector cyhoeddus a phreifat weithio i sicrhau fod cyfleoedd cyflogaeth safonol ar gael ynghyd â gofal plant fforddiadwy.”

Mae Barnardo’s yn aelod o’r glymblaid Dileu Tlodi Plant ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru.

Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru, Yvonne Rodgers fod y Llywodraeth wedi “ymrwymo i roi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020.”

“…ond os na chymerir camau ar frys i greu gwell cyfleoedd bywyd i blant, bydd y rhagolygon ar gyfer teuluoedd yn parhau yn gywilyddus o lwm.”