Mitt Romney
Mae’n debyg mai Mitt Romney yw’r ffefryn i ennill etholiad New Hampshire heddiw yn y gystadleuaeth i ddewis ymgeisydd y Gweriniaethwyr i herio’r Arlywydd Barack Obama ym mis Tachwedd.
Mae disgwyl i gyn lywodraethwr Massachusetts sy’n berchen tŷ haf yn New Hampshire ennill y ras, ond mae na amheuaeth a fydd yn cael llwyddiant ysgubol yn yr etholiad, gan gynyddu pryderon bod y Gweriniaethwyr yn ansicr mai ef yw’r dyn i herio’r Arlywydd.
Yn Iowa wythnos diwethaf fe enillodd y ras o drwch blewyn gan ennill o wyth bleidlais yn unig.
Hefyd yn y ras mae Jon Huntsman, Newt Gingrich, Rick Santorum a Ron Paul.