Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 25 oed farw ar ol gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr yn Stryd Iago, ym Mae Caerdydd yn ystod oriau man bore ma.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond bu farw’n ddiweddarach.
Mae dyn wedi’i ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar amheuaeth o yrru’n beryglus a bod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad diod neu gyffuriau.
Mae’r dyn yn cael ei holi gan yr Heddlu wrth i ymchwiliadau barhau.
Mae Stryd Iago wedi cau ar hyn o bryd ac mae’r heddlu’n galw ar yrwyr i osgoi’r ffordd.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101.