Mae disgwyl i gynllun dadleuol am reilffordd newydd ar gyfer trenau cyflym, gwerth £32 biliwn, gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth San Steffan heddiw.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening yn rhoi ei sêl bendith i’r cynllun a fydd yn golygu bod trenau yn gallu teithio 225 milltir yr awr o Lundain i Birmingham – taith a fydd yn cymryd 49 munud.
Ond mae sawl un yn gwrthwynebu’r cynllun, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan gan y bydd y rheilffordd yn mynd drwy etholaethau Toriaidd rhwng Llundain a Birmingham.