Fe allai merch yn ei harddegau, y cafwyd hyd i’w chorff ar stad y Frenhines yn Sandringham, fod wedi marw o fewn dyddiau ar ôl iddi ddiflannu, yn ôl ditectifs.

Mae’r heddlu yn Norfolk wedi adnabod y corff ac yn dweud bod Alisa Dmitrijeva, 17, oedd yn dod o Latvia ond yn byw yn Wisbech, wedi cael ei gweld am y tro olaf yn King’s Lynn ar Awst 30.

Mae’r heddlu’n credu ei bod hi wedi ei lladd yn yr wythnos hyd at 6 Medi.

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Jes Fry: “Nawr ein bod ni wedi adnabod Alisa, fe Allen ni ganolbwyntio ein hymchwiliadau i geisio darganfod beth ddigwyddodd iddi. Rydan ni’n awyddus iawn i holi unrhyw un a  welodd Alisa rhwng hanner dydd ar 30 Awst a hanner nos ar 6 Medi.”

Mae dau ddyn eisoes wedi cael eu holi fel rhan o’r ymchwiliad i ddiflaniad Alisa Dmitrijeva.