Sasha Jarvis a Sian Gwenllian Lloyd Davies
Fe fydd angladd un o’r merched gafodd eu lladd mewn damwain car yn Llanrug ar ddydd Calan yn cael ei gynnal heddiw.

Fe fydd angladd Sasha Jarvis, 19, oedd yn gymhorthydd yn Ysgol Gynradd Llanrug ac yn gweithio mewn cartref i’r henoed, yn cael ei gynnal heddiw yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis.

Fe gafodd angladd Sian Gwenllian Lloyd Davies, a fu farw yn yr un gwrthdrawiad, ei gynnal ddydd Sadwrn yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio wedi’r ddamwain  a laddodd  y ddwy yn Llanrug yn gynnar fore dydd Calan.

Roedd Siân Gwenllïan Lloyd Davies, 21 oed, a Sasha Jarvis, yn teithio mewn Vauxhall Corsa arian pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Roedd un yn gyrru a’r llall yn deithiwr pan darodd y car yn erbyn wal yn y pentref tua 6am. Y gred yw bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth ar y car.

Eisoes, mae Eifion Jones, Prifathro Ysgol Uwchradd Brynrefail wedi talu teyrnged i’r ddwy ferch a oedd yn gyn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Brynrefail.

Dywedodd Eifion Jones wrth Golwg360 eu bod yn “enethod addfwyn a phoblogaidd ymysg eu cyfoedion a staff yr ysgol.”